|
Adolygiad Dafydd John Pritchard o wefan Gwales
Llion Jones yw un o garedigion pennaf barddoniaeth Gymraeg ein cyfnod ni. Mae’n Brifardd ac yn Brif Gopyn – hynny yw, i’r rhai sydd ddim yn gwybod, ef yw perchennog, tywysydd, cogydd a golchwr llestri yr Annedd, sef cartref rhithiol y gynghanedd ar y we. Barddoniaeth a thechnoleg, dyna ddau o’i ‘bethe’. Mae rhai eraill, wrth gwrs – chwaraeon, er enghraifft, yn enwedig criced. Bydd y rhai sy’n ei adnabod yn gyfarwydd â’r wên lydan sydd i’w gweld ar gefn y gyfrol hon. Ac eto, mae rhywun yn sylweddoli’n fuan iawn o ddarllen y gyfrol mai bydolwg digon tywyll, ar y cyfan, sydd gan y bardd hwn.
Mae’r dilyniant ‘Rhithiau’, a enillodd y Gadair iddo yn Llanelli, yn cyflwyno darlun, neu ddarluniau yn wir, o wagedd y byd cyfoes a’i obsesiynau. Dyma fyd cyfathrebu lle nad oes gwir gyfathrebu, ac mae’r cyfathrebu sy’n digwydd – gan y cyfryngau torfol, gan wleidyddion, mewn hysbysebion, neu gan bobl dros y we ym mhreifatrwydd eu cartrefi – yn ansylweddol a chelwyddog yn aml iawn. Pan ddaw rhywun gartre’ gyda’r nos:
Mae post i’w gamu trosto’n
sypiau dan ei wadnau o,
yn hel o hyd, yn amlhau,
deiliach o epistolau,
gohebiaeth wag i’w ’sgubo
i sgip y gollwng dros go’.
(ar drothwy)
Yn yr un modd, mae’r adran ‘Cyrion’ yn cyfeirio at dramp materoliaeth yn y byd sydd ohoni, ac at undonedd ac unffurfiaeth y byd hwnnw; ac yn dangos sut y mae’r byd hwnnw, yr un pryd, yn disodli ac yn lladd math gwahanol o fyd a chymdeithas a fu’n bodoli cyn hyn:
Mor addas yw’r silffoedd hyn
a baciwyd yn dynn
i’w heirch cardfwrdd
cyn eu cludo ar elor
a’u llwytho’n ddefosiynol
i gist y car
(flatpack)
Gwyleidd-dra, ar ran y bardd, mae’n debyg, sy’n gyfrifol am y ffaith mai cyfrol gymharol denau yw hon (o ran nifer y tudalennau!), ac am y teitl, sydd â thinc o hunanfychanu yn perthyn iddo, oherwydd y gwir yw fod yma fardd hyderus a chrefftus tu hwnt sydd â rhywbeth gwerth chweil i’w ddweud. Trueni, felly, na chawsom ni fwy ganddo!
Bardd y gydwybod gymdeithasol ydyw, gyda rhai o’i englynion, er enghraifft, yn delio ag erchylltra rhyfel a’r twyll sy’n gyfrifol am y rhyfeloedd hynny yn aml iawn. Hyd yn oed heb ddweud hynny’n uniongyrchol, mae cysgod hyn yn amlwg yn rhai o’i englynion Nadolig.
Mae’n werth nodi yn y fan hyn hefyd ei fod yn englynwr campus – trueni nad oes rhagor o’r rhain yma hefyd! Ac mae’n werth i mi dynnu sylw at ddiwyg deniadol y gyfrol, sy’n bwysig yn yr ymgyrch i gynyddu gwerthiant cyfrolau o farddoniaeth Gymraeg. Yn sicr, mae hi’n werth prynu’r gyfrol hon.
Dafydd John Pritchard
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
|