Ying Yang

Ying Yang

Dyma hir a thoddaid a luniwyd ar gyfer Talwrn y Beirdd ym mis Mehefin 2014.

 

Yng ngwawl ei hyder, bydd o’n pryderu,
yn amau heulwen, yn gweld cymylu,
y naill yn achwyn a’r llall yn awchu
byw i’r eithaf, nid byw i hiraethu,
cyfuniad sy’n cyfannu gwên a gwg,
y ddau fydolwg sy’n noddfa i deulu.  

Englyn ar Hap

Tich Gwilym

Ar donfedd hen wlad fy nhadau, fe fydd
Cymru fach a’i chlustiau
fin hwyr yn dal i fwynhau
dewiniaeth sain dy dannau.

Digwyddiadau i ddod

Dim digwyddiadau yn y calendr