"yma ar y cyrion sydd wrth galon pob dim"
 

Methu cyrraedd glan

Yn lli hallt ei hunlle’ o, drwy’i flinder,
mor ofer mae’n rhwyfo
ar y dŵr fel gŵr o’i go’
â hon o’i gyrraedd heno.

Hanner Gwag

Nid digon yw gwangalonni i wlad
â diléit mewn cyni
a chur, yn ein natur ni
aeth anobaith yn hobi.

Tich Gwilym

Ar donfedd hen wlad fy nhadau, fe fydd
Cymru fach a’i chlustiau
fin hwyr yn dal i fwynhau
dewiniaeth sain dy dannau.

45 rpm

A minnau’n mwytho’r cloriau, oni chlywn
uwchlaw hen grafiadau
nodau hud o gytgan dau
yn galw o’r rhigolau?

Gwleidydd

Unwaith roedd chwyldro’n ei anian a’i her
yn eirias, ond rŵan
nid oes ond marwor o’i dân
yn diffodd yn San Steffan.

Englyn ar Hap

Hen Albwm Lluniau

Hanesion i’w hanwesu yw ei ddail,
mae ddoe wedi’i drefnu
yn dal rhwng y gwyn a’r du
lawenydd heb felynu.

Digwyddiadau i ddod

Dim digwyddiadau yn y calendr