Cerddi ar hap
Bydd cerddi amrywiol yn ymddangos ar hap ar y dudalen hon.
Bydd cerddi amrywiol yn ymddangos ar hap ar y dudalen hon.
Dyma gywydd a luniwyd yn ystod cyfnod Llion Jones fel Bardd Preswyl Radio Cymru. Ysgrifennwyd y cywydd ar adeg Cwpan y Byd 2014. Ynddo, mae'r bardd yn dwyn i gof ei brofiad o hel sticeri Panini adeg cystadleuaeth Cwpan y Byd 1978.
Dwyn yn ôl ein doeau ni
wna enw gwâr Panini,
y rhain yw’r llyfrau hanes
gorau oll; ynddynt mae gwres
twrnameintiau caeau’r co’
a’r oed pan oedd pêl-droedio
yn amen ar bob munud
i un yn byw i gwpan byd.
Dymhorau’n iau, ‘roeddwn i
yn caru’r llyfr sticeri,
hudol oedd ei hyd a’i led,
pris pecyn oedd pres poced;
yn llanc, fe dalwn â llog
i gael un o’r rhai sgleiniog,
ias o amlen byd symlach,
aur y byd mewn sticer bach.
 sypyn mawr i’w swopio
at yr iard yr awn bob tro,
roedd got, haven’t got yn gân
ar gyfer y fro gyfan,
ac ym marchnad anwadal
y dwylo chwim doedd dim dal
ai digon Rainer Bonhof
yn y sêl am Dino Zoff?
Y mae’r enwau mawr yno
‘mwndeli sticeri’r co’,
yn creu tîm, mae Socrates,
Tardelli, tri Ardiles,
Villa, Rossi a Fillol,
Hans Krankl, Mario Kempes, Krol;
gwelaf urddas mwstashys
a graen y pyrm Three Degrees.
Dwyn i go’ i gadw’n gall
yw siarad am oes arall
ac i’r tad sydd ger y til
yn gwenu, daw gwefr gynnil
o rannu hen gyfrinach
ac estyn am becyn bach
sy’n dwyn ias ein doeau ni
a hen hanes Panini.
Cliciwch yma i glywed recordiad o'r bardd yn darllen y cywydd ar raglen 'Carl ac Alun'.