Riffiau Ddoe

Gyda'r gitâr yn y to a fyntau
dan fantell parchuso,
daw nodau un i'w hudo
drachefn i far cefn y co'.