06 Ebr2016
Nos da Nostalgia

Newydd ei rhyddhau ar iTunes, Amazon, Google a Spotify y mae 'Nos Da Nostalgia' gan Cadi Gwen.
Cafodd y geiriau ar gyfer y gân eu hysgrifennu gan Llion Jones yn ystod ei gyfnod fel Bardd Preswyl Radio Cymru ym mis Mehefin 2014.
Trwy Cadi Gwen, y mae'r geiriau erbyn hyn wedi cael bywyd newydd.
Cafodd y gân ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar Raglen Lisa Gwilym, nos Fercher 6 Ebrill 2016 a'i dewis yn Trac yr Wythnos ar Radio Cymru rhwng 25-29 Ebrill 2016.
Am ychydig funudau ar 30 Ebrill, fe gyrhaeddodd y gân rhif 29 yn siartiau iTunes ar gyfer Cerddoriaeth y Byd (World Music).