logo

  • Hafan
  • Pwy?
  • Newyddion
    • Archif Newyddion
  • Cerddi
  • Fideo
  • Llyfryddiaeth
  • Y farn!
  • Siop
  • Dolenni
  • Cysylltu
"rhwng dylanwad oes a mympwy"
 
25 Hyd2016

Bardd ar y Bêl

Yn y siopau erbyn hyn, y mae cyfrol ddiweddaraf Llion Jones, 'Bardd ar y Bêl'. O Andorra i Lyon, mae'r gyfrol yn dilyn taith gofiadwy tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 trwy gwpledi, englynion a chywyddau.

Gyda lluniau lliw gan ffotograffydd swyddogol Cymdeithas Pel-droed Cymru, David Rawcliffe, mae'r llyfr, a ddyluniwyd gan Elgan Griffiths, yn wledd weledol ac yn gofnod perffaith o haf bythgofiadwy 2016.

Meddai Osian Roberts, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn ei ragair i'r llyfr:  "Mae’r gyfrol hon yn rhoi cyfnod rhyfeddol yn hanes pêl-droed Cymru ar gof a chadw, a hynny ar odl a chynghanedd. Rwy’n gwybod y cewch fodd i fyw yn aildroedio’r lôn i Lyon."

Cafodd y llyfr ei lansio yn Stiwdio Pontio, Bangor nos Lun 21 Tachwedd 2016 yng nghwmni Nic Parry, Geraint Løvgreen, Ifor ap Glyn, Emlyn Gomer ac Ifan Prys. 

Os nad ydych o fewn cyrraedd hwylus i siop lyfrau Cymraeg, gallwch brynu'r llyfr o siop y wefan hon.

Pris: £6.95

06 Ebr2016

Nos da Nostalgia

Newydd ei rhyddhau ar iTunes, Amazon, Google a Spotify y mae 'Nos Da Nostalgia' gan Cadi Gwen.

Cafodd y geiriau ar gyfer y gân eu hysgrifennu gan Llion Jones yn ystod ei gyfnod fel Bardd Preswyl Radio Cymru ym mis Mehefin 2014.

Trwy Cadi Gwen, y mae'r geiriau erbyn hyn wedi cael bywyd newydd.

Cafodd y gân ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar Raglen Lisa Gwilym, nos Fercher 6 Ebrill 2016 a'i dewis yn Trac yr Wythnos ar Radio Cymru rhwng 25-29 Ebrill 2016.

Am ychydig funudau ar 30 Ebrill, fe gyrhaeddodd y gân rhif 29 yn siartiau iTunes ar gyfer Cerddoriaeth y Byd (World Music).

28 Rhag2015

Y Daith i Ewro 2016 :: Allez Cymru!

Dros gyfnod y Nadolig ar S4C, bydd trydargerddi Llion Jones yn cael eu defnyddio ar raglen ddogfen arbennig gan Rondo Media sy'n croniclo ymgyrch hanesyddol tîm pêl-droed Cymru i gystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc yr haf nesaf.

Mae’r rhaglen, sy'n cael ei darlledu am y tro cyntaf nos Lun, 28 Rhagfyr, yn dangos y cynnwrf o'r gemau rhagbrofol yn ogystal â chyfweliadau gyda’r hyfforddwyr, a’r chwaraewyr, gan gynnwys y rheolwr Chris Coleman, yr is-reolwr Osian Roberts a’r capten Ashley Williams.

Yn gyfeiliant i'r cyfan bydd y trydargerddi a gyfansoddodd Llion Jones wrth i'r ymgyrch gofiadwy fynd rhagddi.

30 Medi2014

Newydd wedd nawr sydd iddi

Croeso i'r wefan ar ei newydd wedd. Hoffwch hon os hoffech chi!

02 Awst2014

Pencampwyr Talwrn y Beirdd 2014

Mewn gornest gofiadwy ym mhabell lên Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, daeth tîm Caernarfon yn fuddugol yn rownd derfynol 'Talwrn y Beirdd' yn erbyn tîm Y Glêr. Yn y llun, gwelir Llion Jones (chwith) yng nghwmni'r Meuryn, Ceri Wyn Jones, a'i gyd-aelodau yn nhîm Caernarfon, Ifan Prys, Ifor ap Glyn a Geraint Lövgreen. 

Trydar mewn Trawiadau

Llion Jones

Riffio ynof mae'r gorffennol heno a seiniau trydanol un seren achlysurol yn dwyn awch Lla'rwst yn ôl. @Mrcyrff… https://t.co/TZ7BxM0cDX

gan Llion Jones

Llion Jones

Ar fap fe welir fy iaith yn ymwasgu'n gymysgiaith; am ryw reswm rwy'n mwmial fel Geordie a Chardi chwâl.… https://t.co/eBous1fbLb

gan Llion Jones

Llion Jones

Dy ddisgiau yw seiniau'r Sul, Yn gaer rhag byd a'i gweryl. https://t.co/uW9LlamtDx

gan Llion Jones

Llion Jones

RT @EmrysWeil: Glasfedd eu Brexit a gwenwyn fu Henwyr sy’n llawn ohonynt eu hunain, ond heb enaid rhyngddynt; breuddwydwyr o bridd ydy…

gan Llion Jones

Llion Jones

Ar noson oer o Ionawr Daw un haf i danio awr, Trwy sleidiau, lluniau a llên Awn â Hal i Ddeiniolen. @glyndeiniolen https://t.co/cAlWQnJuGf

gan Llion Jones

Llion Jones

Yn oriel braf dychwelyd, yn y gân, yn y Guinness hefyd, mae yno'n byw bob munud, du a gwyn sy'n Llwyd i gyd. https://t.co/DN1BXL084M

gan Llion Jones

Llion Jones

I geudod oes ddigidol, heno, fe ddaw'r chwedlonol â nwyd i'n tonfeddi 'nôl. Boi difyr y Byd Afiach, consuriwr cyn… https://t.co/ne7At9kkvm

gan Llion Jones

Copyright © 2019 Gwefan Llion Jones. All Rights Reserved.
Joomla! is Free Software released under the GNU General Public License.
  • Hafan
  • Pwy?
  • Newyddion
    • Archif Newyddion
  • Cerddi
    • Geiriau
  • Fideo
  • Llyfryddiaeth
  • Y farn!
  • Siop
  • Dolenni
  • Cysylltu