Methu cyrraedd glan
Yn lli hallt ei hunlle’ o, drwy’i flinder,
mor ofer mae’n rhwyfo
ar y dŵr fel gŵr o’i go’
â hon o’i gyrraedd heno.
Yn lli hallt ei hunlle’ o, drwy’i flinder,
mor ofer mae’n rhwyfo
ar y dŵr fel gŵr o’i go’
â hon o’i gyrraedd heno.
Nid digon yw gwangalonni i wlad
â diléit mewn cyni
a chur, yn ein natur ni
aeth anobaith yn hobi.
Ar donfedd hen wlad fy nhadau, fe fydd
Cymru fach a’i chlustiau
fin hwyr yn dal i fwynhau
dewiniaeth sain dy dannau.
A minnau’n mwytho’r cloriau, oni chlywn
uwchlaw hen grafiadau
nodau hud o gytgan dau
yn galw o’r rhigolau?
Unwaith roedd chwyldro’n ei anian a’i her
yn eirias, ond rŵan
nid oes ond marwor o’i dân
yn diffodd yn San Steffan.
Nid digon yw gwangalonni i wlad
â diléit mewn cyni
a chur, yn ein natur ni
aeth anobaith yn hobi.