Yr Ymerodraeth Vawr
Nid ydym elwach o fachlud yr haul
ar hon, mae’r meddylfryd
yn fyw a’r hen ysfa o hyd
i arwain ac ymyrryd.
Nid ydym elwach o fachlud yr haul
ar hon, mae’r meddylfryd
yn fyw a’r hen ysfa o hyd
i arwain ac ymyrryd.
Gyda'r gitâr yn y to a fyntau
dan fantell parchuso,
daw nodau un i'w hudo
drachefn i far cefn y co'.
Goleddwyr hen gelwyddau, dygwch hwy
naw deg chwech o weithiau
i brofi’r gwir trech na’r gau
gan hedydd teg ei nodau.
A minnau’n mwytho’r cloriau, oni chlywn
uwchlaw hen grafiadau
nodau hud o gytgan dau
yn galw o’r rhigolau?