Cân yn ofer
Er tywys y mab i'r Aber a sôn
am swyn yr hen amser,
mi wn yng ngwaelod fy mêr
nad wyf ond cennad ofer.
Er tywys y mab i'r Aber a sôn
am swyn yr hen amser,
mi wn yng ngwaelod fy mêr
nad wyf ond cennad ofer.
Hanesion i’w hanwesu yw ei ddail,
mae ddoe wedi’i drefnu
yn dal rhwng y gwyn a’r du
lawenydd heb felynu.
Drwy’r mudandod defodol, yn y bwlch
lle bu’r geiriau ysol
yn duo’r hwyr a throi’r drol,
mae ‘sori’n’ wawr amserol.
Drwy’r bwlch rhwng brodir a byd yr aethost
â’r iaith i chdi’n gerbyd
a chael ym mhob dychwelyd
dragwyddol heol o hyd.
Yn nhŷ Coz mae gwreichion cân, a rhai’n hel
o’r nos gylch y pentan,
y mae awch i’r siarad mân
ond t’wyllwch oer tu allan.
A minnau’n mwytho’r cloriau, oni chlywn
uwchlaw hen grafiadau
nodau hud o gytgan dau
yn galw o’r rhigolau?